SkillsEvents

DIGWYDDIAD SGILIAU, GYRFA A PHRENTISIAETH MWYAF CAERDYDD

DEWCH GYDA NI

Gwybodaeth am
SgiliauCymru

Ymunwch â SgiliauCymru yn Utilita Arena Caerdydd ar 10 Hydref, 9:30am – 2:30pm 2023, a sesiwn fin nos 4pm – 6pm, ac 11 Hydref 2023, 9:30am – 2:30pm.

Yn SgiliauCymru, bydd pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr lleol a chenedlaethol a darparwyr addysg o ansawdd uchel wyneb yn wyneb i gael cyngor arbenigol am yrfaoedd ac i gynllunio eu gyrfaoedd. Eleni, byddwn yn croesawu 5,000 o bobl ifanc a 40 o arddangoswyr i SgiliauCymru, sy’n golygu mai dyma’r digwyddiad gyrfaoedd, hyfforddiant a phrentisiaeth mwyaf sy’n cael ei gynnal am ddim y ne Cymru.

Mae SgiliauCymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’r cyrsiau addysg cyffrous sydd ar gael drwy rai o golegau a phrifysgolion mwyaf poblogaidd Cymru ac archwilio amrywiaeth eang o gyfleoedd prentisiaeth a chyrsiau hyfforddi ar gyfer y swyddi mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae SgiliauCymru yn rhoi cyfle prin i fyfyrwyr elwa o gysylltiad uniongyrchol â chyflogwyr gweithredol a darparwyr cyrsiau, gan roi’r cyfle gorau iddyn nhw ddewis cwrs neu swydd sy’n addas iddyn nhw.

Lawrlwytho 

Skills Events | Skills, career and apprenticeship events across the UK | Arrow

Mae’r arddangoswyr yn dod o nifer o golegau, prifysgolion a diwydiannau i roi amrywiaeth eang o gyfleoedd i’n hymwelwyr ddewis o’u plith. Mae SgiliauCymru yn ffordd wych i bobl ifanc archwilio gwahanol gyrsiau a diwydiannau a dysgu am yr holl lwybrau gyrfaoedd. Bydd myfyrwyr sy’n bwriadu dilyn cwrs dysgu cysylltiedig â gwaith yn cael cyfle i archwilio a gwneud cais am brentisiaethau, cynlluniau hyfforddi a swyddi i raddedigion yng Nghaerdydd a rhanbarthau ehangach ledled Cymru ar y bwrdd swyddi gwag byw yn y lleoliad. Mae mwy o opsiynau cyrsiau a llwybrau at waith nag erioed o’r blaen, gan gynnwys prentisiaethau gradd sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd a chymwysterau newydd eraill sy’n cyfuno astudio a phrofiad gwaith.

Bydd stondinau’n cynnig cyngor ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd i fyfyrwyr a chyngor ar ysgrifennu CV, chwilio am swydd a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Bydd gweithgareddau ymarferol a hwyliog yn cael eu cynnal hefyd mewn stondinau er mwyn i fyfyrwyr gael cipolwg ar y sgiliau y byddan nhw’n eu dysgu a’u datblygu mewn swyddi.

Rydyn ni’n croesawu grwpiau mawr ac nid oes cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr sy’n gallu mynychu SgiliauCymru o un ysgol. Cynhelir y digwyddiad am ddau ddiwrnod yn unig ar 10 a 11 Hydref 2023 yn Arena Ryngwladol Caerdydd. Mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym iawn felly rydyn ni’n annog ymwelwyr i gofrestru ar gyfer y digwyddiad cyn gynted â phosibl. Byddwn hefyd yn darparu pecynnau cymorth i’ch helpu i hyrwyddo eich presenoldeb drwy negeseuon testun, e-bost a chyfryngau cymdeithasol a gallwn gynnig bwrsari teithio i nifer cyfyngedig o ysgolion. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os hoffech chi wneud cais am daliad bwrsari teithio.

Mae Optimus Education yn rhan o Ymddiriedolaeth Shaw, sef un o elusennau mwyaf y DU. Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn sefydliad at ddibenion cymdeithasol sydd wedi ymrwymo i herio anghydraddoldeb a chwalu rhwystrau. Mae SgiliauCymru yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o bob gallu ac mae ein hymrwymiad i gyfrannu at amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle yn golygu ein bod am sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ystyrlon a gwerth chweil ar gael i bawb. Os hoffech chi drafod eich gofynion o ran hygyrchedd gyda’n tîm, anfonwch e-bost atom ni yn [email protected] a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu.

Skills Events | Skills, career and apprenticeship events across the UK | Arrow

‘Ges i lawer o wybodaeth am y llwybrau rydw i am eu dilyn ar ôl y chweched dosbarth. Mae gen i syniad cliriach nawr o’r hyn y byddaf yn ei wneud. Diolch i SgiliauCymru am ddarparu’r digwyddiad hwn am ddim. Mae llawer o fyfyrwyr, fel fi, wedi elwa’n fawr iawn o’r profiad.’

Person ifanc

‘Roedd y digwyddiad yn wych, yn llawn hwyl! Mae pob math o stondinau ac mae’n addysgol iawn.’

Person ifanc

‘Mae’n gyfle i ofyn cwestiynau agored a chlywed profiadau gwahanol bobl fel fi, sy’n dal i fod yn newydd yn y sector, ond sy’n gallu rhoi cyngor da ynghylch lle mae angen iddyn nhw fynd.’

Prentis ac Arddangoswr, SgiliauCymru

SkillsEvents
Tystebau

SgiliauCymru
Cwestiynau Cyffredin

SgiliauCymru yn Arena Ryngwladol Caerdydd, Caerdydd


cardiffinternationalarena.co.uk

Mae caffi ar y safle. Cysylltwch â ni os oes angen bwydlen arnoch.

Mae neuadd arddangos Arena Ryngwladol Caerdydd ar y llawr gwaelod ac mae ganddi ddrysau llydan, awtomatig.

Sut alla i gyrraedd yno mewn car neu fws?

Mewn car

Y cod post yw CF10 2EQ. Does dim llefydd parcio ar gael ar y safle i ymwelwyr. Byddwch yn ymwybodol o’r costau parcio yn y meysydd parcio cyfagos cyn i chi ymweld os ydych chi’n dod mewn car*. Y ddau faes parcio agosaf i’r arena yw:

Rapports NCP (Lle i: 128 o gerbydau / llefydd anabl: 2)

Talu ar y diwrnod:

1 awr – £4.75

1-2 awr – £9.50

2-3 awr – £14.25

 

St. David’s (Lle i: 2,568 o gerbydau / llefydd anabl: 120)

1 awr – £2

2 awr – £3

3 awr – £4

(*yn destun newid gan y lleoliad)

 

Ar y trên

Mae Gorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines tua 10 munud ar droed o’r Arena.

 

Ar fws

Mae Arena Ryngwladol Caerdydd wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd. Mae’r bysiau canlynol yn stopio yn Hayes Bridge Road wrth John Lewis, sydd tua phum munud ar droed o’r lleoliad: 11, 28, 28A a 28B, 89A a 89B.

Rydym ni’n hapus i ddarparu bathodynnau anabledd cudd, cyfieithwyr a threfnu amser mewn ystafell weddïo neu ystafell dawel.  Croesewir cŵn cymorth ond rhaid iddynt fod yn hawdd eu hadnabod ac mae cyfleusterau i gŵn ar gael ar gais.  Cofiwch fod yn rhaid gwneud pob cais o ran hygyrchedd cyn eich ymweliad er mwyn i ni allu gwneud trefniadau ar eich cyfer.  Os oes gennych chi unrhyw ofynion nad ydynt wedi’u rhestru yma, cysylltwch â ni ar [email protected] i ofyn am gymorth.

SgiliauCymru
Arddangosyn

Ymunwch â ni yn SgiliauCymru yn Utilita Arena Caerdydd ar 10 Hydref, 9:30am – 2:30pm 2023 a sesiwn fin nos 4pm – 6pm, ac 11 Hydref 2023, 9:30am – 2:30pm.

Bydd SgiliauCymru, digwyddiad gyrfa, addysg a hyfforddiant mwyaf Cymru yn dod i Arena Ryngwladol Caerdydd ar 10 ac 11 Hydref 2023. Mae SgiliauCymru yn denu miloedd o bobl ifanc rhwng 15 a 24 oed bob blwyddyn, ynghyd ag arweinwyr gyrfaoedd a dylanwadwyr allweddol, i’w galluogi i edrych ar gyrsiau a llwybrau gyrfa cyffrous. Mae croeso i unrhyw ddiwydiant, darparwr hyfforddiant a sgiliau, colegau a phrifysgolion arddangos a rhannu’r cyfleoedd sydd ganddyn nhw i’w cynnig.

Y fantais unigryw i arddangoswyr yn SgiliauCymru yw’r gallu i gael sgyrsiau wyneb yn wyneb pwysig gyda chyfran sylweddol o’ch marchnad darged.  Mae SgiliauCymru yn gyfle i chi drafod yr holl lwybrau gyrfa sydd ar gael yn eich diwydiant a hyrwyddo digwyddiadau agored sydd ar y gweill mewn colegau a phrifysgolion.

Anfonwch neges e-bost atom am arddangos yn SgiliauCymru.

Lawrlwytho

Skills Events | Skills, career and apprenticeship events across the UK | Arrow

SgiliauCymru
Arddangosyn

Mae poblogrwydd prentisiaethau wedi bod yn tyfu’n gyson dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r duedd barhaus at gyrsiau dysgu cysylltiedig â gwaith yn dangos bod galw mawr am gwmnïau sy’n cyflogi prentisiaid. Rydym ni’n awyddus i gynnwys cyflogwyr lleol a chenedlaethol o lawer o wahanol ddiwydiannau er mwyn ein galluogi i gynnig dewis amrywiol o brentisiaethau a chyrsiau i’n hymwelwyr. Mae gweithgareddau rhyngweithiol, fel gweithdai gosod brics, dosbarthiadau coginio ac arddangosiadau gwallt a harddwch, yn creu argraff barhaol ac yn dangos y sgiliau a’r wybodaeth y bydd prentisiaid yn eu datblygu yn eu swyddi. Yn ogystal, bydd hysbysfwrdd cyfleoedd byw yn Arena Ryngwladol Caerdydd i hysbysebu swyddi gwag a chyrsiau presennol.

‘Mae’n wych oherwydd mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc edrych ar wahanol feysydd gwaith a meddwl pa lwybr gyrfa maen nhw eisiau ei ddewis.’
– Heddlu, SgiliauCymru

Dewis gyrfa yw un o’r penderfyniadau mwyaf rydyn ni’n ei wneud a thrwy gyflwyno pobl ifanc i weithwyr proffesiynol profiadol a phrentisiaid sy’n frwdfrydig ynghylch yr hyn maen nhw’n ei wneud, rydyn ni’n eu helpu i wneud dewis mwy gwybodus.

Mae Optimus Education yn rhan o Ymddiriedolaeth Shaw, sef un o elusennau mwyaf y DU. Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn sefydliad at ddibenion cymdeithasol sydd wedi ymrwymo i herio anghydraddoldeb a chefnogi pobl i ddod o hyd i gyflogaeth boddhaus a gwerth chweil. Nod Digwyddiadau Sgiliau yw helpu pobl ifanc i gael y cychwyn gorau yn eu gyrfaoedd a chefnogi dyfodol diwydiannau’r DU.

‘Rydw i’n siarad am y diwydiant adeiladu, a nawr mae pobl ifanc yn ymwybodol o bob gyrfa sydd ar gael ym maes adeiladu. Felly os ydych chi’n meddwl am yr holl sectorau sydd yma heddiw, mae manteision enfawr yma i bobl ifanc.’
– Arddangoswr, SgiliauCymru

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am arddangos yn SgiliauCymru ar 10 ac 11 Hydref 2023 yn Arena Ryngwladol Caerdydd, llenwch y ffurflen fer ar ein tudalen cysylltu â ni a byddwn yn cysylltu â chi. Mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym, felly rydym ni’n eich cynghori i archebu eich lle cyn gynted â phosibl.

SgiliauCymru
Noddwr y digwyddiad

SgiliauCymru
Arddangoswyr

ACT Training
ALS Training
Andrew Scott LTD
Bangor University
Bridgend College
Cambrian Training Company
Cardiff and Vale
Cardiff City FC Community Foundation
Cardiff Council
Cardiff Metropolitan University
Cardiff University
Coleg Gwent
Coleg y Cymoedd
Coventry University
Dŵr Cymru Welsh Water
Educators Wales
Electrical Contractors Association
GE Aerospace
Grŵp Colegau NPTC NPTC Group of Colleges
Gyfra Cyrmu Careers Wales
ITEC Skills
Qualification Wales
Royal Navy RM logo for Skills Events | Skills, career and apprenticeship events across the UK
Royal Navy & Royal Marines
Social Care Wales
South Wales Fire and Rescue
South Wales Police
St David’s College
Transport for Wales
University of South Wales
University of Wales Trinity st David
Urdd Gobiath Cymru
WorldSkills
Y Coleg Cymraeg Cenedlathol

SkillsEvents
Contact us

SkillsCymru logo | Skills, career and apprenticeship events across the UK
SkillsScotland logo | Skills, career and apprenticeship events across the UK

Visitors

To enquire about visiting one of our events please contact:
[email protected]

Cyflwyno
ymholiad