SkillsEvents

DIGWYDDIAD SGILIAU, GYRFAOEDD A PHRENTISIAETHAU MWYAF CAERDYDD

Noddwr y digwyddiad

Gadewch i ni fynd a chi yno

Gwybodaeth am
SgiliauCymru

Ymunwch â ni SgiliauCymru yn Arena Motorpoint, 19 a 20 Hydref 2022.

Yn SgiliauCymru, bydd pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr lleol a chenedlaethol a darparwyr addysg o ansawdd uchel wyneb yn wyneb i gael cyngor arbenigol am yrfaoedd a chynllunio eu gyrfaoedd. Eleni, byddwn yn croesawu 5,000 o bobl ifanc a 45 o arddangoswyr i SgiliauCymru, sy’n golygu mai dyma’r digwyddiad gyrfaoedd, hyfforddiant a phrentisiaeth mwyaf sy’n cael ei gynnal am ddim yng Nghymru.

Mae SgiliauCymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’r cyrsiau addysg cyffrous sydd ar gael drwy rai o golegau a phrifysgolion mwyaf poblogaidd Cymru ac archwilio amrywiaeth eang o gyfleoedd prentisiaeth a chyrsiau hyfforddi ar gyfer y swyddi mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae SgiliauCymru yn rhoi cyfle prin i fyfyrwyr elwa o gysylltiad uniongyrchol â chyflogwyr gweithredol a darparwyr cyrsiau, gan roi’r cyfle gorau iddyn nhw ddewis cwrs neu swydd sy’n addas iddyn nhw.

Lawrlwythwch

Skills Events | Skills, career and apprenticeship events across the UK | Arrow

Mae’r arddangoswyr yn dod o nifer o golegau, prifysgolion a diwydiannau i roi amrywiaeth eang o gyfleoedd i’n hymwelwyr ddewis o’u plith. Mae SgiliauCymru yn ffordd wych i bobl ifanc archwilio gwahanol gyrsiau a diwydiannau a dysgu am yr holl lwybrau gyrfaoedd. Bydd myfyrwyr sy’n bwriadu dilyn cwrs dysgu cysylltiedig â gwaith yn cael cyfle i archwilio a gwneud cais am brentisiaethau, cynlluniau hyfforddi a swyddi i raddedigion yng Nghaerdydd a rhanbarthau ehangach ledled Cymru ar y bwrdd swyddi gwag byw yn y lleoliad. Mae mwy o opsiynau cyrsiau a llwybrau at waith nag erioed o’r blaen, gan gynnwys prentisiaethau gradd sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd a chymwysterau newydd eraill sy’n cyfuno astudio a phrofiad gwaith.

Bydd stondinau’n cynnig cyngor ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd i fyfyrwyr a chyngor ar ysgrifennu CV, chwilio am swydd a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Bydd gweithgareddau ymarferol a hwyliog yn cael eu cynnal hefyd mewn stondinau er mwyn i fyfyrwyr gael cipolwg ar y sgiliau y byddan nhw’n eu dysgu a’u datblygu mewn swyddi.

Rydyn ni’n croesawu grwpiau mawr ac nid oes cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr sy’n gallu mynychu SgiliauCymru o un ysgol. Cynhelir y digwyddiad am ddau ddiwrnod yn unig ar 19 a 20 Hydref 2022 yn Arena Motorpoint Caerdydd. Mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym iawn felly rydyn ni’n annog ymwelwyr i gofrestru ar gyfer y digwyddiad cyn gynted â phosibl. Byddwn hefyd yn darparu pecynnau cymorth i’ch helpu i hyrwyddo eich presenoldeb drwy negeseuon testun, e-bost a chyfryngau cymdeithasol a gallwn gynnig bwrsari teithio i nifer cyfyngedig o ysgolion. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os hoffech chi wneud cais am daliad bwrsari teithio.

Mae Optimus Education yn rhan o Ymddiriedolaeth Shaw, sef un o elusennau mwyaf y DU. Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn sefydliad at ddibenion cymdeithasol sydd wedi ymrwymo i herio anghydraddoldeb a chwalu rhwystrau. Mae SgiliauCymru yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o bob gallu ac mae ein hymrwymiad i gyfrannu at amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle yn golygu ein bod am sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ystyrlon a gwerth chweil ar gael i bawb. Os hoffech chi drafod eich gofynion o ran hygyrchedd gyda’n tîm, anfonwch e-bost atom ni yn [email protected] a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu.

Skills Events | Skills, career and apprenticeship events across the UK | Arrow

‘Ges i lawer o wybodaeth am y llwybrau rydw i am eu dilyn ar ôl y chweched dosbarth. Mae gen i syniad cliriach nawr o’r hyn y byddaf yn ei wneud. Diolch i SgiliauCymru am ddarparu’r digwyddiad hwn am ddim. Mae llawer o fyfyrwyr, fel fi, wedi elwa’n fawr iawn o’r profiad.’

Person ifanc

‘Roedd y digwyddiad yn wych, yn llawn hwyl! Mae pob math o stondinau ac mae’n addysgol iawn.’

Person ifanc

‘Mae’n gyfle i ofyn cwestiynau agored a chlywed profiadau gwahanol bobl fel fi, sy’n dal i fod yn newydd yn y sector, ond sy’n gallu rhoi cyngor da ynghylch lle mae angen iddyn nhw fynd.’

Prentis ac Arddangoswr, SgiliauCymru

SkillsEvents
Tystebau

SgiliauCymru
Cwestiynau Cyffredin

SgiliauCymru yn Arena Motorpoint, Caerdydd
https://motorpointarenacardiff.co.uk/

Bydd gwasanaeth arlwyo ar gael yn y neuadd.

Mae’r neuadd arddangos yn Arena Motorpoint ar lefel y ddaear ac mae ganddi ddrysau llydan, awtomatig yn y ddwy fynedfa a’r allanfeydd.

Gyda char
Y cod post yw CF10 2EQ. Does dim llefydd parcio ar gael ar y safle i ymwelwyr. Byddwch yn ymwybodol o’r costau parcio yn y meysydd parcio cyfagos cyn i chi ymweld os ydych chi’n dod mewn car*. Y ddau faes parcio agosaf i’r arena yw:
Rapports NCP (Capasiti: 128/Llefydd anabl: 2)
Talu ar y diwrnod –
1 awr – £4.75
1-2 awr £9.50
2-3 awr £14.25

St. David’s Dewi Sant (Capasiti: 2568/Llefydd anabl: 120)
1 awr – £2
2 awr – £3
3 awr – £4
(*gallai’r lleoliad newid y rhain)

Ar y trên
Mae Gorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd tua 10 munud ar droed o’r arena.

Gyda bws
Mae Arena Motorpoint yng nghanol Caerdydd. Mae’r bysiau canlynol yn stopio yn Heol Pont Hayes wrth John Lewis, sydd tua phum munud ar droed o’r lleoliad: 11, 28, 28A a 28B, 89A a 89B.

Rydyn ni’n hapus i ddarparu bathodynnau anabledd cudd, cyfieithwyr a threfnu amser mewn ystafell weddïo neu ystafell dawel. Croesewir cŵn cymorth ond rhaid iddynt fod yn hawdd eu hadnabod ac mae cyfleusterau i gŵn ar gael ar gais. Cofiwch fod yn rhaid gwneud pob cais o ran hygyrchedd cyn eich ymweliad er mwyn i ni allu gwneud trefniadau ar eich cyfer. Os oes gennych chi unrhyw ofyniad nad ydynt wedi’u rhestru yma, cysylltwch â ni yn [email protected] i ofyn am gymorth.

SgiliauCymru
Arddangosyn

Ymunwch â ni SgiliauCymru yn Arena Motorpoint Caerdydd, 19 a 20 Hydref 2022.

Bydd SgiliauCymru, sef digwyddiad gyrfa, addysg a hyfforddiant mwyaf Cymru yn dod i Arena Motorpoint Caerdydd, 19 a 20 Hydref 2022. Mae SgiliauCymru yn denu miloedd o bobl ifanc rhwng 15 a 24 oed bob blwyddyn, ynghyd ag arweinwyr gyrfaoedd a dylanwadwyr allweddol, i’w galluogi i edrych ar gyrsiau a llwybrau gyrfa cyffrous. Mae croeso i unrhyw ddiwydiant, darparwr hyfforddiant a sgiliau, colegau a phrifysgolion arddangos a rhannu’r cyfleoedd sydd ganddyn nhw i’w cynnig.

Y fantais unigryw i arddangoswyr yn SgiliauCymru yw’r gallu i gael sgyrsiau wyneb yn wyneb pwysig gyda chyfran sylweddol o’ch marchnad darged. Mae SgiliauCymru yn gyfle i chi drafod yr holl lwybrau gyrfa sydd ar gael yn eich diwydiant a hyrwyddo digwyddiadau agored sydd ar y gweill mewn colegau a phrifysgolion.

Lawrlwythwch

Skills Events | Skills, career and apprenticeship events across the UK | Arrow

SgiliauCymru
Arddangosyn

Mae poblogrwydd prentisiaethau wedi bod yn tyfu’n gyson dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r duedd barhaus at gyrsiau dysgu cysylltiedig â gwaith yn dangos bod galw mawr am gwmnïau sy’n cyflogi prentisiaid. Rydyn ni’n awyddus i gynnwys cyflogwyr lleol a chenedlaethol o lawer o wahanol ddiwydiannau er mwyn ein galluogi i gynnig dewis amrywiol o brentisiaethau a chyrsiau i’n hymwelwyr. Mae gweithgareddau rhyngweithiol, fel gweithdai gosod brics, dosbarthiadau coginio ac arddangosiadau gwallt a harddwch, yn creu argraff barhaol ac yn dangos y sgiliau a’r wybodaeth y bydd prentisiaid yn eu datblygu yn eu swyddi. Bydd hefyd bwrdd cyfleoedd byw yn Arena Motorpoint i hysbysebu swyddi gwag presennol a chyrsiau.

‘Mae’n wych oherwydd mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc edrych ar wahanol feysydd gwaith a meddwl pa lwybr gyrfa maen nhw eisiau ei ddewis.’
– Heddlu, SgiliauCymru

Dewis gyrfa yw un o’r penderfyniadau mwyaf rydyn ni’n ei wneud a thrwy gyflwyno pobl ifanc i weithwyr proffesiynol profiadol a phrentisiaid sy’n frwdfrydig ynghylch yr hyn maen nhw’n ei wneud, rydyn ni’n eu helpu i wneud dewis mwy gwybodus.

Mae Optimus Education yn rhan o Ymddiriedolaeth Shaw, sef un o elusennau mwyaf y DU. Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn sefydliad at ddibenion cymdeithasol sydd wedi ymrwymo i herio anghydraddoldeb a chefnogi pobl i ddod o hyd i gyflogaeth boddhaus a gwerth chweil. Nod Digwyddiadau Sgiliau yw helpu pobl ifanc i gael y cychwyn gorau yn eu gyrfaoedd a chefnogi dyfodol diwydiannau’r DU.

‘Rydw i’n siarad am y diwydiant adeiladu, a nawr mae pobl ifanc yn ymwybodol o bob gyrfa sydd ar gael ym maes adeiladu. Felly os ydych chi’n meddwl am yr holl sectorau sydd yma heddiw, mae manteision enfawr yma i bobl ifanc.’
– Arddangoswr, SgiliauCymru

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am arddangos yn SgiliauCymru 19 a 20 Hydref 2022 yn Arena Motorpoint Caerdydd, llenwch y ffurflen fer ar ein tudalen cysylltu â ni a byddwn yn cysylltu â chi. Mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym, felly rydyn ni’n eich cynghori i archebu eich lle cyn gynted â phosibl. Gallwch hefyd lwytho copi o’n llyfryn arddangoswyr yma.

SgiliauCymru
Noddwr y digwyddiad

SgiliauCymru
Arddangoswyr

SkillsEvents
Contact us

SkillsCymru logo | Skills, career and apprenticeship events across the UK
SkillsScotland logo | Skills, career and apprenticeship events across the UK

Visitors

To enquire about visiting one of our events please contact:
[email protected]

Cyflwyno
ymholiad